Ydych chi'n nabod rhywun a hoffai wyliau yn Ffrainc, yn aros gyda Grŵp o bobol, lle nad oes ots ynghylch cefndir ynteu fedrau?
Ydych chi'n nabod rhywun fyddai’n fodlon cynorthwyo ar wyliau felly?
Ydych chi'n nabod rhywun fyddai’n fodlon cynorthwyo HCPT i barhau i ddarparu gwyliau felly?
Os felly, darllenwch ymlaen os gwelwch chi'n dda!
Elusen yw HCPT sy'n trefnu gwyliau Pererindod i Lourdes yn Ffrainc i bobol o bob oedran a medrau. Mae pob un o bererinion HCPT yn teithio mewn grwpiau a arweinir gan Arweinydd dynodedig. Maent hwy wedi bod trwy broses gyfweld lle sicrheir fod sylwadau canolwyr yn cael sylw fel rhan o’n polisi gwarchod plant ac oedolion agored i newid, yn ogystal â
dadleniadau CRB.
I blant : Mae’r wythnos dros y Pasg yn Lourdes yn wythnos yn llawn hwyl a chwerthin os ydych yno gyda grŵp HCPT - a hefyd yn wythnos o seibiant haeddiannol i ofalwyr yn ôl adref. Yn ogystal â gofal a chyfeillgarwch yn ystod yr wythnos mae'r gwirfoddolwyr yn treulio'r flwyddyn yn codi arian i dalu am holl dreuliau’r plant. Felly, cynigir wythnos o wyliau yn rhad ac am ddim, gyda gofal llawn, heb fod ‘na unrhyw gost i chi. Rydym wedi darparu
tudalennau gwybodaeth er mwyn i chi ddarganfod beth sy'n digwydd o fewn grwpiau HCPT, beth fyddai'ch plentyn yn ei wneud a pha brofiad y byddai ef/hi'n cael. Mae
ffeithlen un dudalen ar gael hefyd i’w lawr lwytho gyda manylion llawn.
I oedolion : Mae dau grŵp yn Nhŷ Hosanna bob wythnos o ddiwedd mis Ebrill tan ddiwedd mis Hydref; Mae 43 person ym mhob grŵp ar gyfartaledd. Does dim gwahaniaeth ffurfiol rhwng y rhai sy'n rhoi cymorth a'r rhai sy'n ei dderbyn; mae gan bob aelod gyfraniad cyfartal i'w roi - yr un ffurflen i'w llenwi a'r un pris i'w dalu. Mae rhai grwpiau'n trefnu digwyddiadau codi arian er mwyn cwrdd â’r costau lle bo angen hynny. Cartref HCPT yn Lourdes yw Tŷ Hosanna. Mae’r adnoddau yno yn ddigymar. Gweler y tudalennau
Tŷ Hosanna er mwyn cael gwybodaeth bellach.
I deuluoedd : Mae Villa Bartrès ar agor i chi! Croeso i deuluoedd o hyd at 19 o bobol. Does yna ddim isafswm cyfnod y mae’n rhaid i chi aros, a medrwn fod o gymorth gyda threfnu hedfan a llogi ceir yn Ffrainc. Gweler tudalennau
Villa Bartrès am wybodaeth bellach.
I gynorthwywyr newydd : Rydym wedi darparu
tudalen gwybodaeth er mwyn eich cynorthwyo i ddod i wybod rhagor ynghylch yr hyn sy’n digwydd o wirfoddoli i fod gyda grŵp, beth yw’r disgwyliadau ohonoch, a sut y byddwch ar eich ennill o’r profiad. Mae yna hefyd
ffeithlen i'w lawr lwytho sy'n cynnwys yr holl fanylion.
Daeth HCPT - The Pilgrimage Trust - â dros 5,000 o bobl i Lourdes, a gyda'n ffrindiau dros y môr -
IHCPT,
ASCPG, a grwpiau o India'r Gorllewin, Slofacia, Romania a Chroasia - daethom â chyfanswm o 6,000 o bobl yno. Fyddai hyn ddim yn bosib heb gymorth hael meddygon a chymwynaswyr.
Sut y medrech ein cynorthwyo.
Os na fyddwch chi’n llwyddo i ddod o hyd i rywbeth ar ein tudalennau,
rhowch wybod i ni.
Rydym yn edrych ymlaen at glywed oddi wrthoch!
Bookmark this page (what is this?)